Ymchwil Taith Defnyddiwr Adnodd
Comisiynodd Adnodd Miller Research i wneud gwaith ymchwil. Mae Adnodd yn gwmni annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gydlynu a goruchwylio darpariaeth a chomisiynu adnoddau dwyieithog i gefnogi Cwricwlwm i Gymru a’i gymwysterau ar gyfer dysgwyr 3-19 oed.
Mae’r comisiwn hwn wedi’i ddatblygu mewn ymateb i’r angen i ddatblygu adnoddau addysgol o ansawdd uchel sy’n addas i gwricwlwm newydd Cymru yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac i’r adnoddau hyn gael eu llunio ar y cyd ag ymarferwyr. Mae hefyd angen cydnabyddedig am ragor o gydgysylltu a sicrhau ansawdd datblygiad adnoddau addysgol ar gyfer dysgwyr 3-19 oed. Bydd Adnodd yn darparu ateb i’r heriau hyn, o ystyried ei fandad i symleiddio a goruchwylio’r broses gomisiynu a manteisio i’r eithaf ar yr arbenigedd sy’n cael ei fwydo i ddatblygiad yr adnoddau hyn.
Mae Miller Research wedi’u contractio i gynnal ymarfer ymgysylltu ag ymarferwyr, dysgwyr, a rhieni i nodi’r hyn sy’n hysbys am adnoddau addysg Cymraeg, Saesneg a dwyieithog presennol yng Nghymru a’r hyn sydd ei angen ar gyfer adnoddau yn y dyfodol. Bwriad yr ymarfer hwn yw bwydo i mewn i waith Adnodd yn y dyfodol, gan helpu i ddeall sut mae defnyddwyr yn dod o hyd i adnoddau addysgol ac yn eu defnyddio, i gyfoethogi eu profiad a chefnogi eu hanghenion yn well. Bydd y mewnwelediadau a geir hefyd yn llywio ein hymagwedd at gomisiynu adnoddau yn y dyfodol.
Fel rhan o’r comisiwn hwn, bydd Miller Research yn casglu gwybodaeth trwy wahanol lwybrau.
- Cynhelir cyfres o weithdai, wedi’u hwyluso gan Miller Research. Bydd Miller Research yn sicrhau na allwch gael eich adnabod o’r wybodaeth bersonol a gesglir yn y gweithdai a’r grwpiau ffocws pan fydd y data’n cael ei ddadansoddi a’i adrodd. Efallai y bydd angen i ni recordio gweithdai am resymau gweithredol. Os mai dyma’r achos, fe’i gwneir yn glir i chi cyn i’r gweithdy ddechrau, a chewch gyfle i wrthod i’r drafodaeth gael ei recordio. Dim ond os yw holl aelodau’r grŵp yn fodlon i hyn ddigwydd y caiff gweithdy ei recordio.
- Bydd cyfres o gyfweliadau cwmpasu ar-lein yn cael eu cynnal gan Miller Research. Bydd Miller Research yn sicrhau na ellir eich adnabod o’r wybodaeth bersonol a gasglwyd yn y cyfweliadau pan fydd y data’n cael ei ddadansoddi a’i adrodd.
- Cyfres o sesiynau wedi’u cymedroli a heb eu cymedroli i’w cynnal gan UserTesting.com. Bydd ymchwil yn sicrhau na ellir eich adnabod o’r wybodaeth bersonol a gesglir yn y sesiynau hyn pan fydd y data’n cael ei ddadansoddi a’i adrodd. Wrth gynnal sesiynau ar-lein, mae Miller Research yn defnyddio rhaglen feddalwedd o’r enw UserTesting. Rydym wedi sicrhau bod UserTesting yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir trwy’r feddalwedd.
- Arolwg i rieni a dysgwyr i’w gynnal naill ai ar feddalwedd SmartSurvey neu UserTesting, gan gasglu mewnwelediad ar eu defnydd a barn ar adnoddau addysgol yng Nghymru. Rydym wedi sicrhau bod SmartSurvey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir trwy’r feddalwedd. Bydd arolygon yn ddienw ac ni chesglir unrhyw wybodaeth adnabyddadwy.
Your participation is any of the above activity is voluntary and if you do not wish to take part or be sent reminders then please reply to the invitation email and your details will be removed.
Mae eich cyfranogiad yn unrhyw un o’r gweithgareddau uchod yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael nodyn atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei defnyddio’n fewnol gan Adnodd i lywio ei waith yn y dyfodol wrth gefnogi ymarferwyr, dysgwyr a rhieni gyda’u hanghenion adnoddau. Bydd adroddiad yn manylu ar ganfyddiadau’r ymchwil yn cael ei gynhyrchu, gyda’r potensial iddo gael ei rannu ar wefan Adnodd neu gyda rhanddeiliaid fel Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau a phrosesau Adnodd.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Miller Research yw Katie Lloyd
Cyfeiriad e-bost: katie@miller-research.co.uk
Rhif ffôn: 01873 851880
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sydd gennym ni a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.
Bydd Miller Research yn defnyddio eich enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn at ddibenion y gwerthusiad hwn yn ogystal ag unrhyw ddata arall a rennir yn y broses gofrestru.
Beth yw’r sail gyfreithlon dros ddefnyddio’ch data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Adnodd.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Adnodd gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu i’w helpu i gyflawni ei flaenoriaethau strategol fel y’u diffinnir gan Lywodraeth Cymru.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Miller Research bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn sy’n gallu cyrchu’r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Miller Research yn defnyddio’r data hwn. Bydd unrhyw waith papur prosiect yn cael ei gadw dan glo yn swyddfeydd Miller Research. Mae gan Miller Research ardystiad hanfodion seiber.
Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?
Bydd Miller Research yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw wedi’i ddileu eisoes yn ystod dadansoddi data yn cael ei ddileu gan Miller Research o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Os byddwch yn mynegi diddordeb am gyfleoedd pellach gyda Miller Research, byddwn yn cadw manylion cyswllt perthnasol nes i chi dynnu caniatâd yn ôl.
Bydd Miller Research yn darparu fersiwn dienw o’r data i Adnodd na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.
Hawliau unigol
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r gwerthusiad hwn, yn benodol mae gennych yr hawl:
I gael mynediad at gopi o’ch data eich hun;
I ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;
Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau);
Er mwyn i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau); a
Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk
Gwybodaeth Bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarparwyd fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Adnodd neu’n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:
Enw: Kirk Tierney
Cyfeiriad e-bost: kirk.tierney@adnodd.llyw.cymru