Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Miller Research i gynnal adolygiad o seilwaith diwylliannol Cymru. Nod yr adolygiad hwn yw datblygu ein dealltwriaeth o seilwaith ffisegol y sector diwylliant yng Nghymru, gyda golwg ar ddatblygu cynllun buddsoddi cyfalaf hirdymor wedi’i lywio gan dystiolaeth.
Fel rhan o’r adolygiad hwn, bydd Miller Research yn casglu gwybodaeth drwy arolwg.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Miller Research yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy’r arolwg ac yn gwneud y data crai yn ddienw cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Miller Research yw Hannah Rigley
Cyfeiriad e-bost: hannah@miller-research.co.uk
Rhif ffôn: 01873 851880
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael yr wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel “unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodydd”.
Rydych wedi cael eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg oherwydd eich bod wedi cael eich nodi fel rheolwr cyfleuster neu adeilad, neu fel cyswllt allweddol, ar gyfer safle neu leoliad diwylliannol yng Nghymru.
Nid yw’r ymchwil hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ni gasglu data personol ychwanegol gennych.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael negeseuon atgoffa, atebwch yr e-bost gwahoddiad a chaiff eich manylion eu dileu. Dim ond at ddibenion yr adolygiad hwn y bydd Miller Research yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn.
Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o’r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â’ch adnabod o’r ymatebion a ddarperir gennych nac yn cysylltu eich hunaniaeth â hwy.
Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol gan ofyn am ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais, ac yna bydd yn ei ddileu o’r data ymchwil.
Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich data?
Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hon yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Er enghraifft, gallai’r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hwn gael ei defnyddio i:
- Llywio buddsoddiad mewn seilwaith cyfalaf yng Nghymru
- Creu cronfa ddata a map o seilwaith diwylliannol yng Nghymru
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Miller Research bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn sy’n gallu cael mynediad at y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Miller Research yn defnyddio’r data hwn. Mae gan Miller Research ardystiad Cyber Essentials.
Wrth gynnal arolygon, mae Miller Research yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolygon o’r enw Qualtrics. Rydym wedi sicrhau bod Qualtrics yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.
Mae gan Miller Research weithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw achosion tybiedig o dorri diogelwch data. Os bydd achos tybiedig o dorri diogelwch data, bydd Miller Research yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru, a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo’n ofynnol yn gyfreithiol iddo wneud hynny.
Bydd Miller Research yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod cyfranogwyr unigol.
Am ba hyd rydym yn cadw eich data personol?
Bydd Miller Research yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi’i ddileu yn cael ei ddileu gan Miller Research o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Bydd Miller Research yn darparu fersiwn ddienw o’r data i Lywodraeth Cymru, na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai arwain at eich adnabod.
Hawliau unigolion
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r adolygiad hwn. Yn benodol, mae gennych yr hawl:
- I gael copi o’ch data eich hun;
- I ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;
- I wrthwynebu prosesu neu gyfyngu arno (o dan rai amgylchiadau);
- I’ch data gael ei “ddileu” (o dan rai amgylchiadau); ac
- I gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk.
Rhagor o Wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Enw: Jemma Francis
Cyfeiriad e-bost: jemma.francis001@gov.wales
Rhif ffôn: 0300 025 5150
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.