Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer: Buddsoddiad Cyfalaf Arloesi Bwyd 

Cyflwyniad/Cefndir 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwil i ystyried effaith  a gwerth am arian y rhaglen Buddsoddiad Cyfalaf Arloesi Bwyd.  Er mwyn gwneud hyn, byddem yn croesawu eich ymateb i’r ymholiad hwn. Bydd y wybodaeth hon yn helpu i lywio polisi yn y dyfodol. Er mwyn casglu’r wybodaeth hon bydd angen i ni brosesu rhywfaint o ddata personol amdanoch er mwyn cysylltu â chi a siarad â chi am eich profiadau. Bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu mewn adroddiad ysgrifenedig a map ac efallai y caiff ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Bydd gofal mawr yn cael ei gymryd i sicrhau na fydd unrhyw wybodaeth bersonol am unrhyw unigolion neu unig fasnachwyr yn cael ei chyhoeddi.  Nid oes rheidrwydd arnoch i rannu unrhyw ddata personol gyda ni ond bydd methu â gwneud hynny yn golygu na fyddwn yn gallu ystyried eich profiadau wrth gynllunio polisi. Bydd Llywodraeth Cymru yn Rheolwr ar gyfer gwybodaeth bersonol a brosesir at y diben hwn. 

Beth yw’r Sail Gyfreithiol ar gyfer prosesu? 

Bydd eich data personol yn cael ei brosesu fel rhan o dasg gyhoeddus Llywodraeth Cymru; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru yn yr achos hwn hynny yw, casglu data am eich profiadau a’ch gwybodaeth am Buddsoddiad Cyfalaf Arloesi Bwyd, er mwyn helpu i lywio polisi. 

Pa wybodaeth bersonol sydd ei hangen arnom i’w phrosesu? 

Efallai y bydd angen i ni gasglu a phrosesu eich enw llawn, eich cyfeiriad post, eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn. Gellir casglu hwn mewn arolwg ar-lein, e-bost, ymateb i bost cyfryngau cymdeithasol neu o sgwrs ffôn gyda chi.   

Pam fod angen inni brosesu eich data personol? 

Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion ymchwilio a choladu gwybodaeth am Buddsoddiad Cyfalaf Arloesi Bwyd o fewn Bwyd a Diod Cymru’. 

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol? 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich gwybodaeth bersonol am gyfnod o 3 blynedd ar ôl i’n hymchwil gael ei gwblhau yn unol â’n Polisi Cadw Data. 

A fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu? 

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill oni bai eu bod naill ai’n gweithio ar ein rhan neu dim ond pan fyddant yn darparu gwasanaethau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r ymchwil hon, neu mae’n ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Efallai y bydd datganiad neu brofiadau y gallech eu darparu yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, ond byddwn yn sicrhau na fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei datgelu. 

Eich hawliau: 

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau a ganlyn; 

  • I weld data amdanoch chi eich hun;  
  • I ni gywiro anghywirdebau yn y data hynny; 
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau); 
  • I ‘ddileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau); a 
  • Chyflwyno cwyn i’r Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. 

 

Gwybodaeth gyswllt 

Mae manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:  

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk 

I gael eglurhad pellach ar y defnydd o’ch data ar gyfer Buddsoddiad Cyfalaf Arloesi Bwyd gallwch gysylltu â AnneDavies@gov.wales 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â’r hysbysiad preifatrwydd hwn neu sut mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data:  

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ,  

Ebost: DataProtectionOfficer@gov.wales.