Hysbysiad Preifatrwydd FSC – Cymraeg – Cyfweliadau ag Aelodau Bwyd Cymunedol

Welsh Government Logo

 

Gwerthusiad o Grant FareShare Cymru 2024/25:

Cyfweliadau ag Aelodau Bwyd Cymunedol  

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Miller Research i gynnal gwerthusiad o grant FareShare Cymru (FSC) hyd yma. Diben y gwerthusiad, yn fras, yw deall:

  • Effaith amgylcheddol grant FSC ar ailddosbarthu bwyd dros ben.
  • Effaith gymdeithasol grant FSC ar weithgareddau’r elusennau y mae’n eu cefnogi.
  • Y senario gwrthffeithiol – beth fyddai wedi digwydd heb gyllid grant Llywodraeth Cymru ar gyfer FSC
  • I ba raddau y mae grant FSC wedi cefnogi cynaliadwyedd ariannol FSC, ac archwilio modelau busnes addas ar gyfer FSC yn y dyfodol a sut y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn.

Fel rhan o hyn, bydd Miller Research yn casglu gwybodaeth drwy gyfweliadau gyda nifer o Aelodau Bwyd Cymunedol FSC.  

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil.  Fodd bynnag, bydd Miller Research yn dileu unrhyw ddata personol a gyflwynir ac yn gwneud data crai yn ddienw cyn eu rhannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Yr unigolyn cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Miller Research yw Sophie Wheeler

Cyfeiriad e-bost: sophie.wheeler@miller-research.co.uk

Rhif ffôn: 01873 851880

 

 

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddyfais adnabod. 

Mae Miller Research, mewn cydweithrediad â FareShare Cymru, wedi nodi eich sefydliad fel sefydliad o ddiddordeb ar gyfer cyfrannu at gyfweliad. Mae FareShare Cymru wedi anfon e-bost atoch i ofyn am eich caniatâd i rannu eich enw a’ch cyfeiriad e-bost gyda Miller Research. Mae gan FareShare Cymru eich manylion cyswllt oherwydd eich bod yn Aelod Bwyd Cymunedol sy’n cael bwyd gan FareShare Cymru i gefnogi gweithrediadau eich sefydliad. 

Bydd Miller Research yn defnyddio eich enw a’ch cyfeiriad e-bost at ddibenion y prosiect ymchwil hwn yn unig. 

Nid yw cymryd rhan mewn cyfweliad yn golygu bod yn rhaid i chi gyflwyno unrhyw wybodaeth bersonol ychwanegol ar wahân i’ch delwedd os ydych yn cytuno i fideo o’ch cyfweliad gael ei recordio.  

Efallai y bydd angen i ni recordio’r cyfweliad am resymau gweithredol. Os felly, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i’r cyfweliad ddechrau, a bydd gennych gyfle i ddweud wrthym os nad ydych am i’r drafodaeth gael ei recordio. Os caiff y cyfweliad ei recordio, bydd data personol yn cael eu dileu yn ystod y broses drawsgrifio. Bydd recordiadau’n cael eu dileu unwaith y bydd y broses hon wedi’i chwblhau. Os na chaiff y drafodaeth ei recordio, ni fydd data personol yn cael eu cynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu ar ôl y drafodaeth. 

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hon yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a gyflwynir i Miller Research bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer gyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn all gael mynediad at y data. Bydd Miller Research yn defnyddio’r data hyn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan Miller Research Ardystiad Hanfodion Seiber.

Wrth gynnal arolygon, mae Miller Research yn defnyddio rhaglen meddalwedd arolygon o’r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.

Mae gan Miller Research weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw sefyllfaoedd lle ceir amheuaeth o dor diogelwch data. Yn achos tor diogelwch data, bydd Miller Research yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am hyn, a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae gofyniad cyfreithiol arnom i wneud hynny.

Bydd Miller Research yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i’ch adnabod, os caiff unrhyw sylwadau gennych eu cynnwys, bydd y rhain yn mynd drwy broses sicrwydd ansawdd i dynnu unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i’ch adnabod.

Pa mor hir ydym yn cadw eich data personol?

Bydd Miller Research yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad ydynt eisoes wedi’u tynnu yn ystod y broses casglu data yn cael eu dileu gan Miller Research o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.

Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau a ganlyn mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a gyflwynir gennych fel rhan o’r gwerthusiad hwn. Mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at gopi o’ch data eich hun;
  • i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn amgylchiadau penodol);
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol); ac
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk

Gwybodaeth Ychwanegol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a gyflwynir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os ydych am arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Enw: Aimee Marks

Cyfeiriad e-bost: Aimee.Marks@llyw.cymru

Rhif ffôn: 03000 259321

 

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru