Hysbysiad Preifatrwydd FSC – Cymraeg – Gwaith Maes gyda Busnesau

Welsh Government Logo

 

Gwerthusiad o Grant FareShare Cymru 2024/25:

Gwaith Maes gyda Busnesau

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Miller Research i gynnal gwerthusiad o grant FareShare Cymru (FSC) hyd yma. Diben y gwerthusiad, yn fras, yw deall:  

  • Effaith amgylcheddol grant FSC ar ailddosbarthu bwyd dros ben.  
  • Effaith gymdeithasol grant FSC ar weithgareddau’r elusennau y mae’n eu cefnogi.  
  • Y senario gwrthffeithiol – beth fyddai wedi digwydd heb gyllid grant Llywodraeth Cymru ar gyfer FSC 
  • I ba raddau y mae grant FSC wedi cefnogi cynaliadwyedd ariannol FSC, ac archwilio modelau busnes addas ar gyfer FSC yn y dyfodol a sut y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn. 

Fel rhan o hyn, bydd Miller Research yn casglu gwybodaeth drwy arolwg o’r busnesau sy’n darparu bwyd dros ben i FareShare Cymru a nifer fach o gyfweliadau dilynol. Nod hyn yw deall profiadau busnesau sy’n darparu bwyd dros ben i FareShare Cymru. 

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil.  Fodd bynnag, bydd Miller Research yn dileu unrhyw ddata personol a gyflwynir ac yn gwneud data crai yn ddienw cyn eu rhannu â Llywodraeth Cymru. 

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru. 

Yr unigolyn cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Miller Research yw Sophie Wheeler 

Cyfeiriad e-bost: sophie.wheeler@miller-research.co.uk 

Rhif ffôn: 01873 851880 

 

 

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddyfais adnabod. 

Mae Miller Research yn cysylltu â busnesau sy’n rhoi bwyd dros ben i FareShare Cymru i gynnal arolwg a hefyd i gynnal cyfweliadau. Nid yw Miller Research yn cadw eich manylion cyswllt. 

Yr arolwg 

Rhoddodd Miller Research ddolen at yr arolwg i FareShare Cymru, a anfonodd e-bost atoch gan ddefnyddio’r manylion personol sydd ganddynt. Mae eich manylion cyswllt (enw a chyfeiriad e-bost) yn cael eu cadw gan FareShare Cymru oherwydd y trefniant ffurfiol sydd gan eich busnes gyda nhw i roi’r bwyd dros ben y mae eich busnes yn ei gynhyrchu i FareShare Cymru i gefnogi gweithrediadau FareShare Cymru. 

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac nid oes unrhyw ofyniad i gyflwyno unrhyw ddata personol mewn ymateb i’r arolwg. Nid yw eich cyfeiriad e-bost na chyfeiriad IP yn cael eu cofnodi o ganlyniad i gwblhau’r arolwg felly bydd yr ymatebion yn ddienw. Os byddwch yn dewis cyflwyno data personol ychwanegol mewn cwestiynau testun agored, byddwn yn ceisio peidio â’ch adnabod o’ch atebion, ac ni fyddwn yn cysylltu eich manylion â’ch atebion.  

Ar ddiwedd yr arolwg, bydd cyfle i gyflwyno eich manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) os ydych yn fodlon cymryd rhan mewn cyfweliad dilynol gyda Miller Research i edrych yn fanylach ar eich ymatebion i’r arolwg. Os byddwch yn dewis rhannu eich manylion cyswllt, bydd y rhain yn cael eu cysylltu â’r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn yr arolwg. Mae cymryd rhan mewn cyfweliad yn gwbl wirfoddol a gallwch gwblhau’r arolwg heb gymryd rhan mewn cyfweliad. Ni fydd Miller Research yn cysylltu â phawb, ond cysylltir â detholiad o ymatebwyr i archwilio gwahanol fathau o fusnesau a mathau o ymatebion mewn mwy o fanylder.  

Cyfweliadau 

Lle mae Miller Research wedi cysylltu â chi i gymryd rhan mewn cyfweliad, mae ganddynt eich manylion drwy un o’r llwybrau canlynol: 

  • Fe wnaethoch gyflwyno eich manylion cyswllt yn wirfoddol ar ddiwedd yr arolwg i gymryd rhan mewn cyfweliad dilynol;  
  • Mae Miller Research, mewn cydweithrediad â FareShare Cymru, wedi nodi eich busnes fel busnes o ddiddordeb ar gyfer cyfrannu at gyfweliad. Mae FareShare Cymru wedi anfon e-bost atoch i ofyn am eich caniatâd i rannu eich enw a’ch cyfeiriad e-bost gyda Miller Research. 

Nid yw cymryd rhan mewn cyfweliad yn golygu bod yn rhaid i chi gyflwyno unrhyw wybodaeth bersonol ychwanegol ar wahân i’ch delwedd os ydych yn cytuno i fideo o’ch cyfweliad gael ei recordio.  

Efallai y bydd angen i ni recordio’r cyfweliad am resymau gweithredol. Os felly, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i’r cyfweliad ddechrau, a bydd gennych gyfle i ddweud wrthym os nad ydych am i’r drafodaeth gael ei recordio. Os caiff y cyfweliad ei recordio, bydd data personol yn cael eu dileu yn ystod y broses drawsgrifio. Bydd recordiadau’n cael eu dileu unwaith y bydd y broses hon wedi’i chwblhau. Os na chaiff y drafodaeth ei recordio, ni fydd data personol yn cael eu cynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu ar ôl y drafodaeth. 

Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ar unrhyw adeg ac yn cyflwyno data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yn eu dileu o’r data ymchwil wedi hynny. 

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.  

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hon yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth.  

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a gyflwynir i Miller Research bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer gyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn all gael mynediad at y data. Bydd Miller Research yn defnyddio’r data hyn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan Miller Research Ardystiad Hanfodion Seiber. 

Wrth gynnal arolygon, mae Miller Research yn defnyddio rhaglen meddalwedd arolygon o’r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd. 

Mae gan Miller Research weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw sefyllfaoedd lle ceir amheuaeth o dor diogelwch data. Yn achos tor diogelwch data, bydd Miller Research yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am hyn, a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae gofyniad cyfreithiol arnom i wneud hynny.  

Bydd Miller Research yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i’ch adnabod, os caiff unrhyw sylwadau gennych eu cynnwys, bydd y rhain yn mynd drwy broses sicrwydd ansawdd i dynnu unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i’ch adnabod.  

Pa mor hir ydym yn cadw eich data personol?

Bydd Miller Research yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad ydynt eisoes wedi’u tynnu yn ystod y broses casglu data yn cael eu dileu gan Miller Research o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt os ydych wedi’u cyflwyno. 

Bydd Miller Research yn rhoi copi dienw o ymatebion i’r arolwg i Lywodraeth Cymru nad yw’n cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i’ch adnabod. 

Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau a ganlyn mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a gyflwynir gennych fel rhan o’r gwerthusiad hwn. Mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at gopi o’ch data eich hun;
  • i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn amgylchiadau penodol);
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol); ac
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk

Gwybodaeth Ychwanegol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a gyflwynir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os ydych am arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Enw: Aimee Marks

Cyfeiriad e-bost: Aimee.Marks@llyw.cymru

Rhif ffôn: 03000 259321

 

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru