Polisïau blynyddoedd cynnar yng Nghymru a dyfodol ôl-bandemig: arolwg ar-lein gyda gweithwyr proffesiynol

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Miller Research i gyflawni astudiaeth ymchwil drylwyr o bolisïau blynyddoedd cynnar yng Nghymru yng nghyd-destun y pandemig COVID-19. Nod yr astudiaeth ymchwil hon yw archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru wrthweithio unrhyw anfantais a brofwyd gan blant (yn y blynyddoedd cynnar) a’u teuluoedd yn ystod y pandemig COVID-19 yn sgil methu â gallu cael at y cymorth a’r ymyraethau arferol.  

Fel rhan o’r ymchwil hwn, bydd Miller Research yn casglu gwybodaeth trwy arolwg ar-lein gyda gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi plant bach a’u teuluoedd yng Nghymru.   

Llywodraeth Cymru yw rheolydd y data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Miller Research yn dileu unrhyw ddata personol a roddwyd trwy’r grwpiau ffocws, ac yn anonymeiddio’r data amrwd, cyn ei rannu gyda Llywodraeth Cymru. 

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Miller Research a Llywodraeth Cymru. 

Rydych chi’n cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich safbwyntiau a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu gosod sail o wybodaeth i arwain polisïau Llywodraeth Cymru. 

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Miller Research yw Tom Bajjada
Cyfeiriad e-bost: tom@miller-research.co.uk
Rhif ffôn: 01873 851880